Pobl
natur
a
yn ffynnu
Ein strategaeth o 2025 i 2035
Rhagair
Hilary McGrady Cyfarwyddwr-Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
René Olivieri Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei hun, mae’r strategaeth hon yn ymdrech ar y cyd. Mae wedi cael ei gyrru gan gyfraniadau 70,000 o bobl yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ac mae wedi’i hadeiladu ar 130 mlynedd o brofiad a gwaith caled, gan genedlaethau o bobl sydd wedi rhoi eu hamser, eu gofal a’u cefnogaeth i’n hachos. Nid yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi aros yn llonydd erioed. Ym mhob pennod yn ein hanes, rydym wedi addasu i’r hyn sydd ei angen ar y pryd. Gobeithiwn y byddwch chi hefyd yn teimlo’n falch o’r hyn mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i gyflawni a’ch bod yn barod i ymuno gyda ni ar gyfer y bennod nesaf. Diolch yn fawr.
Hilary McGrady and René Olivieri
Arno mae’r haul yn tywynnu, drosto mae’r gwynt yn chwythu, ac mae’n eiddo i bob un ohonoch chi ac i bob gŵr, gwraig a phlentyn sydd heb dir.
Octavia Hill, 1902
Yr her o’n blaenau
Mae’n 2050. Mae adar gwyllt yn galw ar draws ein mawndiroedd. Mae’r pysgod yn neidio mewn nentydd. Mae’r gwenyn yn suo ar draws gerddi a sgwariau ein dinasoedd. Mae pobl yn mwynhau natur a diwylliant ym mhobman. Drwy waith caled miliynau o bobl, mae byd natur wedi’i adfer. Mae llefydd hanesyddol yn cael eu caru, eu defnyddio a’u rhannu.
Gall bob un ohonom lunio’r dyfodol yna
Rydych chi ar fin darllen y strategaeth fydd yn ein harwain dros y degawd nesaf. Ac mae 2035 yn anodd i’w ddychmygu.
A fydd dŵr afonydd yn rhedeg yn glir ac yn lân yn Lloegr?
A fydd blodau gwyllt yn garped dros ddyffrynnoedd yng Nghymru?
A fydd coridorau gwyrdd yn agor ar draws Gogledd Iwerddon?
Gobeithio’n wir
Oherwydd mae gweledigaeth arall o’r dyfodol yn dangos y gallai newid hinsawdd droi byd natur oddi ar ei hechel, gan effeithio ar ein dinasoedd a’n harfordiroedd – a chan achosi niwed pellach i bobl, i fywyd gwyllt ac i lefydd hanesyddol a thirweddau. Yn ogystal â phroblemau cymdeithasol sy’n gwaethygu gyda dirywiad yn ymddiriedaeth y cyhoedd.
Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gwrando ar dros 70,000 o bobl.
Bydd angen i bawb gyfrannu
Darllen y canlyniadau
Rydym ni wedi eistedd lawr i drafod y dyfodol gyda’r bobl sy’n ein hadnabod ni orau – ein partneriaid, aelodau, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff. Ac fe wnaethom ni fynd ar ôl nifer o bobl nad oeddem ni wedi cwrdd â hwy o’r blaen – yn ifanc ac yn hŷn – er mwyn gofyn, ‘sut allwn ni eich gwasanaethu chi?’ Y canlyniad yw ein strategaeth ar gyfer 2025-2035. Mae’n dod gan bobl o’n tair gwlad. Ac mae’n mynd yn ôl atynt fel galwad i ymuno – gwahoddiad i’r degawd nesaf, hanfodol o’n cenhadaeth.
Mae hanes yn dangos ein bod wedi goresgyn heriau o’r blaen. A chyda’ch cymorth chi, gallwn eu goroesi unwaith eto.
Gall ein hachos fod yn achos i bawb: gan helpu pobl a natur i ffynnu. Cafodd ei greu er budd pawb, a gall fod o fudd i lawer mwy o bobl. Beth am weithio gyda’n gilydd i adfer byd natur, rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal at fyd natur, harddwch a hanes ac ysbrydoli miliynau mwy o bobl i ymuno â’n hachos.
Ein strategaeth
01
Adfer byd natur: nid dim ond ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond ym mhobman
Mae angen byd natur arnom er mwyn goroesi: cyflenwad o ddŵr glân, peillio ein cnydau, yr aer rydym ni’n ei anadlu. Ond mae ein hynysoedd mewn perygl oddi wrth newid hinsawdd, ac rydym wedi gweld mwy o ddirywiad o ran byd natur yma nag yn bron unrhyw le arall yn y byd.
Anghyfartaledd ar draws ein cenhedloedd yn golygu nad oes gan lawer o bobl ddigon o fyd natur yn eu bywydau i fod yn iach, neu i fwynhau profiad diwylliannol i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gan ddefnyddio’r cyfan sydd wedi’i roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae yna lawer iawn mwy y gallwn ni ei wneud, i fwy o bobl.
Rhoi diwedd ar hawl anghyfartal i gael mynediad at fyd natur, harddwch a hanes
02
Allwn ni ddim cyflawni’r ddau nod yma ar ein pen ein hunain – bydd angen i filiynau o bobl ymuno gyda ni. Mae gan yr Ymddiriedolaeth ddyletswydd i genedlaethau blaenorol – wedi’r cyfan, rydym wedi etifeddu cymaint ganddyn nhw.
Ysbrydoli miliynau mwy o bobl i ofalu ac i weithredu
03
Er mwyn llwyddo mewn byd sy’n newid yn gyflym byddwn angen ehangu ein gwybodaeth a’n sgiliau er mwyn gallu eu rhannu’n fwy eang. A byd angen i ni dyfu ac amrywio ein cyllid er mwyn cyflawni rhagor ar gyfer ein hachos.
Adnewyddu ein ffyrdd o weithio mewn byd sy’n prysur newid
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd y strategaeth hon yn cael ei throi’n realiti. Rydym yn gweithio ar gynlluniau i gyflawni, mesurau llwyddiant a ffyrdd o ariannu a chodi arian ar gyfer meysydd newydd o ran gwaith. Ac rydym yn gweithio i sicrhau bod conglfeini’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ein haelodaeth, gwirfoddolwyr a’r llefydd gwerthfawr rydym ni’n gofalu amdanynt, yn parhau i ffynnu yn y degawd sydd i ddod.
Gwas y neidr (Orthetrum cancellatum) wedi glanio ar geidwad yn Felbrigg Hall, Norfolk | ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rob Coleman
Llun o'r awyr o bobl yn mynd i’r pwll yn Brimham Rocks, Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Yr haul yn codi dros y traeth yn Sandilands, Swydd Lincoln | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Archwilio ein hanes
Gwirfoddoli yn Tyntesfield, Gogledd Gwlad yr Haf. Roedd Tyntesfield yn gartref i’r teulu Gibbs am sawl cenhedlaeth | ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rob Stothard
Dyma’r neges yr hoffwn ei chyfleu drwy’r strategaeth hon:
Mae angen byd natur
arnom er mwyn goroesi.
Mae’n adrodd yr hanes o bwy ydym ni.
Mae’n gwneud i ni deimlo ein bod yn cael ein cydnabod, a’n cysylltu gyda phobl a phethau.
Ac mae angen diwylliant;
Sy’n rhan greiddiol o fodau dynol.
Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno strategaeth newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i chi: Bydd y strategaeth hon yn gosod ein cyfeiriad ac yn arwain ein penderfyniadau dros y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Eto mae gennym fwy o dystiolaeth nag erioed o’r blaen o sut mae byd natur a threftadaeth yn cyfoethogi ein bywydau o ddydd i ddydd. Maent yn rhoi hapusrwydd a seibiant, yn ysbrydoli ymdeimlad o berthyn a’n cysylltu ni gyda’n gilydd. Yr anghenion hyn – anghenion cyffredinol o ddydd i ddydd pobl yma yn y DU – sydd yn greiddiol i’n cynlluniau. Bydd cyflawni’r strategaeth hon yn gofyn am ymdrech anferthol ac un na allwn ni, yn amlwg, ei gwneud ar ein pen ein hunain. Byddwch yn ein gweld yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill lawer mwy, a llawer mwy y tu hwnt i’n ffiniau ein hunain, mewn cymunedau, trefi a dinasoedd. Byddwn yn gofalu am lefydd a chasgliadau gyda gofal a balchder, a byddwn yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr eu bod ar gael ac yn ddefnyddiol i bawb sydd eu hangen.
Yn greiddiol iddo mae tri nod uchelgeisiol 2050: adfer byd natur, rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal at fyd natur, harddwch a hanes, ac ysbrydoli miliynau yn fwy o bobl i ofalu a gweithredu. Byddwn yn gweithio tuag atynt dros y degawd nesaf. Mae yna newidiadau o fewn y gymdeithas rydym angen cynorthwyo i sicrhau eu bod yn digwydd os ydym i aros yn driw i’n pwrpas elusennol o adael byd naturiol a diwylliannol sy’n ffynnu ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Ers ein strategaeth ddiwethaf yn 2015, mae’r byd wedi newid. Mae byd natur wedi dirywio mwy ac yn gynt. Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu’r anghydraddoldeb sy’n bodoli o ran gallu cael mynediad at fannau gwyrdd. Mae treftadaeth a hanes wedi cael lle amlwg mewn trafodaethau cyhoeddus tra mae ariannu ar gyfer treftadaeth leol wedi ei wasgu a’i daenu’n deneuach. Bydd cymunedau gwasgaredig a gostyngiad yn ymddiriedaeth y cyhoedd dim ond yn ei gwneud hi’n fwy anodd i oresgyn y problemau hyn.
Gwylio
Ein cenhadaeth: Pobl a Natur yn Ffynnu
Dyma ein tri nod ar gyfer 2050, a phedwerydd nod yn dangos sut y byddwn yn eu gwasanaethu yn y degawd nesaf.
Lleihau symudiad
Adnewyddu ein ffordd o weithio
Ysbrydoli miliynau
Rhoi terfyn ar fynediad anghyfartal
Adfer byd natur
Trosolwg o’r strategaeth
Prosiectau
Trosolwg
Lawrlwytho PDF o’r strategaeth
Ein strategaeth 2025-2035
Parhau gydag etifeddiaeth
Proses ymgynghori
Plannu lili wen fach yn Traphont Castlefield, Manceinion | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Annapuma Mellor
Mam a’i phlentyn yn edrych ar y tiwlipau yn yr ardd yn Canons Ashby, Swydd Northampton | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Gwirfoddolwyr Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynorthwyo gyda llosgi dan reolaeth ar y rhostir yn Beagles Point, the Lizard, Cernyw | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Seth Jackson
Llygoden y Dŵr | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Richard Bradshaw
Ymwelydd yn mwynhau munud dawel yn yr ardd yn Lytes Cary, Gwlad yr Haf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Ffotograffau drôn o gochwydden anferthol yn cael ei difrodi gan fellt ym Mharc a Gardd Sheffield, Dwyrain Sussex | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Garddwr yn codi moron yn yr Ardd Furiog yn Dunham Massey, Manceinion Fwyaf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Cerddwyr Mwslemaidd ar dro gylchol Lynmouth drwy Watermeet a Countisbury, Dyfnaint | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Beck
The Tiger Hunt, Attingham Park, Swydd Amwythig. Dau banel mawr o bapur wal wedi’i baentio mewn bloc â llaw, wedi’i briodoli’n flaenorol i Joseph Dufour ond bellach ystyrir mai Velay of Paris a’i lluniodd | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
DJ PUN1T yn tranwsnewid y cowrt yn llawr dawnsio bywiog yn ystod Colour the Mind: LIVE gan ddathlu diwylliannau De Asia ym Mhlasty a Gardd Wightwick, Gorllewin Canolbarth Lloegr | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Beck
Ymwelwyr yn mwynhau digwyddiad Rang Barse Holi yng Nghastell Corfe, Dorset Gŵyl Hindwaidd sy’n cael ei dathlu fel gŵyl lliwiau, cariad a’r gwanwyn | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Sophie Bolesworth
Gosodiad celf dros dro ‘We Can Do Better’ yn Downhill Demense, Swydd Londonderry Mae ‘We Can Do Better’, Castlerock, Downhill Demense yn osodiad celf dros dro gan yr Arlunydd Joe Caslin sydd wedi trawsnewid tŷ eiconic Downhill House i gynfas anferth a phrofiad AR | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Gwaith yn mynd rhagddo ar Dapestri Hardwick (Gwydion yn Ymosod ar y Midiantiaid 1578) yn yr Oriel Hir yn Neuadd Hardwick, Swydd Derby Tapestri, gwlân a sidan, 5-6 ystof y cm, Gwydion yn Ymosod ar y Midiantiaid, o gyfres o 14 o Stori Gwydion Oudenaarde, 1578. Dyma’r deuddegfed tapestri yn y gyfres naratif | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Trevor Ray Hart
Plant ar ymweliad ysgol yn cymryd diddordeb mewn gwaith celf yn 575 Wandsworth Road, Llundain | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Megan Taylor
Dau Geidwad Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn atgyweirio wal garreg sych yn Moss Mire yn Borrowdale a Derwent Water, Cymbria | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Nant drwy ddolydd llifogi yn llawn o flodau gwyllt cynhenid yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Pedair acer wedi’u lleoli rhwng dwy goedwig | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Muslim Hikers ar dro gylchol Lynmouth drwy Watermeet a Countisbury, Dyfnaint | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Beck
Ymwelwyr yn cerdded Llwybr y Grib yn Divis a’r Black Mountain, Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Ceidwaid a gwirfoddolwyr yn helpu i glirio draenio llwybr ar y bryniau uwchben Grasmere, Cymbria | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Buwch goch gota saith smotyn yn y glaswellt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Wicken Fen, Swydd Caergrawnt | ©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rob Coleman
Ymwelwyr yn chwilota y tu mewn i’r Abaty, Abaty Fountains a Gardd Ddŵr Frenhinol Studley, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Annapuma Mellor
Ymwelwyr yn archwilio’r casgliad o goed anfrodorol uchel a gasglwyd gan y teulu Armstrong yn y Pinetum yn Craigside, Northumberland | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Annapuma Mellor
Ceidwad yn asesu’r difrod wedi’r tân yn Studland Bay, Dorset | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Steve Haywood
Diwrnod Ceidwaid Ifanc yn Dunham Massey, Swydd Gaer Hwyluswyd gan dîm Ceidwaid Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Aeth Ceidwaid Ifanc ati i gwblhau gwaith sy’n allweddol er mwyn amddiffyn a diogelu byd natur a bywyd gwyllt yn Dunham Massey | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Canslo
Dderbyn ac edrych
Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth gael ei lwytho, gan y gall y cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Mae’n bosib y byddwch am ddarllen telerau gwasanaeth a pholisi preifatrwydd YouTube Google cyn derbyn.
Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae’r dudalen hon yn arddangos cynnwys sy’n cael ei gyhoeddi i YouTube.
Reduced motion
Close
Os nad yw’r fideo’n chwarae ohono’i hun, cliciwch yma i ddechrau ei chwarae
Llusgo i’r chwith a’r dde er mwyn edrych ar fwy o ddelweddau
Tap and hold to drag horizontally
Godlingston Heath yn Dorset, rhan o’r ‘uwch’ warchodfa natur Purbeck Heaths Rhostir yr iseldir wedi’i warchod, sy’n gartref i bob un o’r chwe ymlusgiad brodorol ym Mhrydain, adar prin, planhigion ac infertebratau | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Pam adfywio byd natur?
Yn edrych dros Bwll Hanner Lleuad a Chored Gardd Ddŵr Frenhinol Studley, Fountains Abbey, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Andrew Butler
Llun o’r awyr o Studland Heath, Dorset | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Miller
Rydym angen gwyrdroi hyn dros y degawd nesaf. Byddwn yn canolbwyntio ar ymdrechion lleol i symud ymlaen tuag at y targed bydeang o amddiffyn 30% o dir1.
Byddwn yn gwneud hyn drwy roi buddiannau hirdymor byd natur a phobl gyntaf yn ein penderfyniadau. A byddwn yn helpu miliynau o rai eraill, a’r rhai sy’n eu gwasanaethu, i wneud yr un fath. Byddwn yn adfywio iechyd afonydd, tiroedd gwlyb ac arfordiroedd, amddiffyn mawndiroedd sy’n darparu storfeydd hanfodol o ddŵr a charbon, a meithrin rhywogaethau prin. Byddwn yn helpu pobl i helpu byd natur – a bydd byd natur yn helpu pawb ohonom.
Beth sydd angen i ni ei wneud
1 Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang y CU
Mae cymaint wedi’i gyflawni. Mae cymaint i’w wneud o hyd.
Traeth tawel ar Arfordir Durham, Swydd Durham | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Miller
Nid yw gwaith adfer ac adnewyddu yn bethau sy’n newydd i ni. Mae ein tir yn darparu tai ar gyfer planhigion ac anifeiliaid sy’n werthfawr ac yn brin. Mae arfordir Durham nawr yn disgleirio gyda thywod euraidd yn hytrach na bod yn ddu gyda gwastraff glo o’r pyllau glo lleol – newid rydym wedi cynorthwyo i wneud dros y 30 mlynedd nesaf. Rydym wedi ailgyflwyno rhywogaethau mewn tirweddau a dyfrffyrdd. Rydym wedi glanhau a gofalu am nentydd sialc, afonydd a gwlypdiroedd. Ond gallwn wneud cymaint mwy. Mae arferion ffermio sy’n natur-gyfeillgar wedi bod yn allweddol i rannau helaeth o’n gwaith. Fel rhan o’n strategaeth, byddwn yn cefnogi’r rhwydwaith o ffermwyr y cydweithiwn â nhw ar draws y tir er mwyn iddynt allu chwarae rhan sylweddol wrth adfer natur a bod yn wydn wrth wynebu newid yn yr hinsawdd, ac wrth wneud hynny byddant yn cynhyrchu bwyd da a maethlon a rhedeg busnesau cynaliadwy.
Rhai prosiectau sydd wedi paratoi’r ffordd ymlaen
Diogelu mawndir mewn llefydd sydd dan ein gofal
Archwilio mwy
Mae mawndir iach yn hynod o bwysig i’r amgylchedd, gan weithredu fel storfa garbon, cynefin sy’n doreithiog o ran ei fywyd gwyllt a rheolwr llifogydd. Rydym yn adfer, diogelu a rheoli’r mawndiroedd sydd dan ein gofal er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac arbed yr ardaloedd gwerthfawr yma ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Creu hanes y bydd naturiol yn Purbeck Heaths
Rydym wedi ymuno gyda Natural England, RSPB, Forestry England, y Rempstone Estate Trust, Dorset Wildlife Trust, Amphibian and Reptile Conservation Trust, y tîm Dorset National Landscape ynghyd â phartneriaid eraill a chymunedau lleol, i greu ‘uwch warchodfa natur‘ gyntaf y DU yn Purbeck Heaths.
Creu hafan newydd ar gyfer bywyd gwyllt ar yr arfordir
Rydym yn credu y dylai rhannau mwyaf gwerthfawr o’n harfordir gael eu gwarchod a’u rhannu. Un o’r enghreifftiau mwyaf diweddar o hyn yw’r gwaith sydd wedi bod yn digwydd ar arfordir Swydd Lincoln yn Sandilands.
Helpu byd natur a bywyd gwyllt i ffynnu yn Porlock Vale
Mae afonydd mewn trafferth, ac felly hefyd y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw. Dyna pam rydym wedi gweithio gyda thenantiaid fferm lleol, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol o amgylch Porlock Vale i greu afon a dalgylchoedd sy’n lân, yn iach ac yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt.
Parhau gyda’r daith
Dychwelyd i’r cyflwyniad
Rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal at fyd natur, harddwch a hanes
Ein nod
Adfywio byd natur
Mae prosesau naturiol wedi’u hadfer, ecosystemau’n gweithio a chynefinoedd estynedig wedi galluogi byd natur i adfer a ffynnu ac mae wedi cefnogi addasu i hinsawdd ac amgylchedd sydd wedi newid.
Beth ydym ni’n anelu amdano erbyn 2050
Find out how we'll do this
Y gymdeithas yn gydnerth ac yn cael ei chynnal drwy economi bositif o ran byd natur a hinsawdd; fe wnaethom chware ein rhan yn cwrdd â tharged carbon sero-net y DU.
O leiaf 30% o dir y DU wedi’i reoli’n dda o safbwynt byd natur.
Sut y byddwn yn mesur llwyddiant
Ardal
Byd natur yn ffynnu, wedi’i ddynodi gan gynnydd yn niferoedd, amrywiaeth a gwasgariad rhywogaethau, ansawdd cynefinoedd dŵr glân, carbon wedi’i storio, priddoedd iach.
Ansawdd
Gall rhywogaethau symud ac atgenhedlu drwy’r dirwedd mewn coridorau bywyd gwyllt, cerrig sarn a chynefinoedd croesawgar.
Cysylltiedig
Helpu cymdeithas i bontio i ddyfodol sy’n gyfoethog o ran byd natur, yn bositif o ran hinsawdd, gan gynnwys systemau rheoleiddio ac economaidd sy’n cymell hyn o fewn ffermio a’r defnydd a wneir o dir.
Gweithio gydag eraill ar ein tir ein hun i greu 250,000 hectar o dirwedd sy’n gyfoethog o ran byd natur lle mae afonydd yn rhedeg yn glir, mawndir wedi’i adfer, systemau arfordirol yn gydnerth a thirweddau’n gysylltiedig.
Yr hyn fyddwn yn ei wneud erbyn 2035
Ymwelwyr yn crwydro’r parc trefol dros dro yn Nhraphont Castlefield, Manceinion | ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/ Annapurna Mellor
Adfer Llwybr y Pysgotwr, Beddgelert | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Cwymplen
Pam rhoi diwedd ar hawl anghyfartal i fynediad?
Menyw yn tynnu llun o flaen coed blodau. Gerddi coed blodau pop-yp yng nghanol y ddinas a rhaglen etifeddiaeth plannu coed o amgylch y ddinas | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Roedd y llefydd rydym yn gofalu amdanynt fel elusen unwaith mewn dwylo preifat gyda dim ond ychydig yn gallu eu mwynhau. Nawr mae’r adeiladau, henebion, gerddi a thirweddau gwerthfawr yn perthyn i ni i gyd, gan groesawu dros 150 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn. Ond mae anghyfartaledd ar draws ein cenhedloedd yn golygu nad oes gan lawer o bobl ddigon o fyd natur yn eu bywydau i fod yn iach, neu i fwynhau profiad diwylliannol i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gan ddefnyddio’r cyfan sydd wedi’i roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae yna lawer iawn mwy y gallwn ni ei wneud, i fwy o bobl.
Byddwn yn gweithio er lles miliynau o bobl, lle bynnag maent yn byw. Rydym eisiau i bawb gael mynediad at fyd natur, harddwch a hanes, ym mhobman.
Byddwn yn croesawu amrywiaeth ein llefydd a’r bobl sy’n cael budd ohonynt, fel eu bod yn cael eu caru a’u cadw a’u defnyddio gan lawer mwy. Rydym yn gobeithio y bydd pobl o bob cefndir yn teimlo’n gartrefol ynddynt: gan ddarllen yn y llyfrgelloedd; dysgu rhywbeth newydd; rhoi eu dwylo yn naear ein gerddi a theimlo siffrwd y byd naturiol. Ond mae’n rhaid i fyd natur a diwylliant ffynnu y tu hwnt i’r llefydd rydym yn berchen arnynt – mewn trefi a dinasoedd, mewn cymunedau arfordirol a phentrefi. Does gan ddwy ran o bump ohonom ddim man gwyrdd y gallwn gerdded iddo mewn 15 munud. Mae gormod o bobl heb goed a chân yr adar lle maen nhw’n byw. Mae gormod o bobl yn teimlo nad oes ganddyn nhw berthynas gyda’r hyn sydd o’u hamgylch yn lleol. Dylai llefydd gwyrdd lleol a thirweddau lleol fod yn llawn bywyd, ac yn llawn pobl. Byddwn yn gweithio gydag eraill i gefnogi hyn.
Ymwelwyr yn mwynhau digwyddiad Rang Barse Holi yng Nghastell Corfe, Dorset Gŵyl Hindŵaidd sy’n cael ei dathlu fel gŵyl lliwiau, cariad a’r gwanwyn | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Sophie Bolesworth
Rydym wedi gweithio mewn trefi a dinasoedd, yn aml gyda phartneriaid lleol, i wasanaethu mwy o bobl. Rydym wedi creu coridorau gwyrdd, sy’n cysylltu byd natur ac yn cysylltu pobl. Rydym wedi creu ‘gardd yn yr awyr’ yng nghanol Manceinion gan ddefnyddio traphont hanesyddol. Rydym wedi ymestyn ein cwmpas ac wedi gweld miloedd o bobl yn mwynhau dathliadau Holi a Diwali yn y safleoedd hanesyddol rydym ni’n gofalu amdanynt. Rydym wedi cynyddu amrywiaeth yr hanes rydym yn eu rhannu yn llefydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ac rydym wedi rhoi miliynau o docynnau mynediad am ddim i gyrchfannau ymwelwyr sydd yn ein gofal, yn ogystal â chynnal ymweliadau ysgol am ddim ar draws y tair gwlad rydym yn eu gwasanaethu.
Creu profiad arfordirol mwy cynhwysol
Mae Sefydliad Mae Murray wedi’u hymrwymo i wneud traethau ar hyd a lled Gogledd Iwerddon yn hygyrch i bobl gydag anghenion corfforol, dysgu a synhwyraidd. Yn Portstewart Strand, rydym wedi gweithio gyda’n gilydd ar y prosiect Traeth Cynhwysol er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl fwynhau’r pleserau syml o fod ar lan-y-môr.
Gwneud mannau gwyrdd trefol yn fwy hygyrch
Yn Divis a’r Black Mountain, rydym yn cyd-greu un o’r uwchdiroedd gwyrdd mwyaf hygyrch yn yr Ynysoedd hyn, lle gall pobl a llefydd ffynnu gyda’i gilydd mewn tirwedd wyllt hardd, iach sy’n gyforiog o natur.
Dod â chymunedau trefol yn nes at fyd natur
Rydym yn gweithio gyda dinas Manceinion er mwyn anadlu bywyd newydd i’r strwythur rhestredig Gradd II, Traphont Castlefield. Gyda’n gilydd, rydym yn ei drawsnewid yn barc trefol wedi’i greu gan bobl leol ac er budd iddynt.
Dawnsio gyda’n gilydd i ddathlu Holi
Gan weithio gyda Chymdeithas Indiaidd Bournemouth, Poole a Christchurch, fe wnaethom ddathlu Holi – un o wyliau mwyaf lliwgar a hwyliog – drwy wahodd pawb i ymuno mewn digwyddiad am ddim yng Nghastell Corfe yn Dorset.
Trosolwg o’r Strategaeth
Ysbrydoli miliynau mwy o bobl i ofalu am fyd natur a threftadaeth ddiwylliannol ac i weithredu ar eu rhan
Pan rydym yn siarad am gynyddu mynediad, sôn yr ydym am fod yn rhan o rywbeth y gall pawb gael budd ohono, ac am gael gwared ar rwystrau ymarferol megis pellter, yn ogystal â rhwystrau emosiynol megis perthyn. Oherwydd mae byd natur, harddwch a hanes yn perthyn i bawb.
Mwy o bobl yn elwa ar eu telerau eu hunain o’r defnydd a wneir ganddynt o fyd natur, harddwch a hanes.
Gweithio gydag eraill i gynyddu argaeledd llefydd naturiol ac sy’n gyfoethog gyda threftadaeth yn agos at lle mae pobl yn byw.
% o grwpiau a dangynrychiolir sydd â mynediad ac sy’n mwynhau’r buddion.
Cyfartalwch
Amlder a dyfnder y defnydd a wneir o lefydd sy’n gyfoethog gyda byd natur a hanes.
% o bobl gyda mynediad at natur a hanes.
Mae’r mynediad hwn yn creu mwy o ymdeimlad o berthyn a chysylltiad gyda threftadaeth (y gorffennol, y presennol a’r dyfodol) a’r gallu i werthfawrogi treftadaeth eraill yn well.
Mae pobl yn mwynhau mynediad byd-eang i lefydd hanesyddol a naturiol o safon uchel, ac yn teimlo’r buddion positif yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Mwy o hawl cyfartal i gael mynediad at fyd natur, harddwch a hanes, felly gall mwy o bobl elwa ohono.
Gwirfoddolwyr ifanc a gwesteion, Tai Cefn Wrth Gefn Birmingham, haf 2016 Ar daith dywys hynod ddiddorol, mae ymwelwyr yn cymryd cam yn ôl mewn amser yng nghowrt olaf y tai cefn wrth gefn sydd wedi goroesi yn Birmingham; tai a godwyd, yn llythrennol, gefn yn gefn â‘i gilydd o amgylch cowrt cymunedol | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Plant yn mwynhau nenfwd yr Oriel Hir yn dilyn gwaith cadwraeth yn Lanhydrock, Cernyw | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Steve Haywood
Pam ysbrydoli miliynau?
Merch ifanc yn mwynhau gweithgareddau celf yn yr ystafell gelf yn Allan Bamk, Grasmere, Cymbria. Roedd Allan Bank unwaith yn gartref i William Wordsworth a’r Canon Rawnsley; cafodd Allan Bank ei achub rhag trallodion tân yn 2011 ac mae wedi’i adnewyddu a’i addurno’n rhannol | @Lakes Culture/Jill Jennings
Fel sefydliad cadwraeth mwyaf Ewrop, sydd wedi’i gefnogi gan lu anferth o wirfoddolwyr, rydym mewn sefyllfa unigryw i fod yn ysbrydoli a gyrru newid. Mae ein haelodau a’n gwirfoddolwyr yn eiriolwyr gwych dros gadwraeth. A byddwn yn uno gyda sefydliadau eraill i greu mudiad mwy dros ofal a chadwraeth.
Ysbrydoli a galluogi pobl i ofalu am fyd natur a harddwch ar raddfa mwy nag erioed o’r blaen. Yn eu bywydau o ddydd i ddydd ac yn eu cymunedau. Mae yna gynnydd aruthrol wedi bod yn yr offer a’r technolegau sy’n galluogi pobl i gysylltu gyda’r byd o’u cwmpas a gweithio gyda’i gilydd. Byddwn angen dechrau gyda phobl – dod i ddeall a rhagweld beth sy’n eu cymell ac sy’n eu grymuso.
Cwpwl yn cymryd hunlun gyda’r cerddorion canoloesol yn ystod y digwyddiad Diwrnodau Agored Treftadaeth, Swydd Caerloyw | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Mae cenedlaethau blaenorol wedi defnyddio grym yr Ymddiriedolaeth i ysbrydoli ac i weithredu. Yn y 1960’au, fe wnaeth ein cefnogwyr lansio Menter Neifion (‘Enterprise Neptune’), i amddiffyn yr arfordir rhag datblygiad. Diolch iddynt hw mae dros 750 milltir o arfordir yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei ofalu amdano, ac ni fydd hi byth yn bosib adeiladu arno. Mae ymgyrchoedd mwy diweddar wedi ein galluogi ni i brynu’r tir ar ben Clogwyni Gwynion Dofr ar gyfer y cenhedloedd rydym ni’n eu gwasanaethu. Rydym wedi cynnal gweithdai Natur i’r Genhedlaeth Nesaf ar gyfer miloedd o blant a phobl ifanc ac wedi gwahodd gwyddonwyr ifanc ac artistiaid i ddefnyddio cartref Syr Isaac Newton i ddatblygu eu syniadau ymhellach. Mae ein Diwrnodau Agored Treftadaeth blynyddol yn un o wyliau hanes a diwylliant mwyaf y DU. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r elusen mae pobl yn chwilio amdani fwyaf ar y we, gyda lefelau uchel o ymddiriedaeth a chydnabyddiaeth gan y cyhoedd. Mae yna gymaint y gallwn ei wneud i ysbrydoli pobl i ymuno gyda’n hachos.
Helpu pobl a chymunedau flodeuo
Blodau yw’r harddwch sydd gennym ar stepen ein drws. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gysylltu pobl gyda byd natur a chyrraedd cymunedau sy’n cael eu tan-wasanaethu, fel bod cymaint â phosib o bobl yn gallu dathlu prydferthwch planhigion yn eu blodau bob gwanwyn.
Gwahodd pobl i archwilio eu treftadaeth leol
Diwrnodau Agored Treftadaeth yw gŵyl hanes a diwylliant fwyaf Lloegr. Rydym yn cyflwyno’r ŵyl yn genedlaethol bob blwyddyn, gan gefnogi rhwydwaith o dros 2,350 o drefnwyr lleol i gynnig digwyddiadau am ddim a gweithgareddau arbennig sy’n cysylltu pobl gyda’u treftadaeth.
Helpu mwy o bobl ifanc i gysylltu â natur
Dechreuodd Bwthyn Ogwen weithredu fel canolfan Ymddiriedolaeth Outward Bound yn 2015. Gan weithio gyda’n gilydd, rydym wedi parhau i roi cyfle i fwy o bobl ifanc brofi amgylchedd naturiol Eryri a datblygu eu hunain drwy brofiadau awyr agored heriol.
Ysbrydoli pobl ifanc i lunio’r dyfodol
Yn 2024, fe wnaethom lansio Gwobr Amser a Gofod. Wedi’i hysbrydoli gan ‘flwyddyn rhyfeddodau’ Syr Isaac Newton, mae’n gystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed er mwyn rhoi cyfle iddynt ennill yr adnoddau maent eu hangen er mwyn ymchwilio i’w syniad mawr eu hunain yn un un o’r pedwar maes: gwyddoniaeth, celf a diwylliant, cymdeithas a byd natur a’r hinsawdd.
Allwn ni ddim cyflawni’r ddau nod yma ar ein pen ein hunain – bydd angen i filiynau o bobl ymuno gyda ni. Mae gan yr Ymddiriedolaeth ddyletswydd i genedlaethau blaenorol – wedi’r cyfan,rydym wedi etifeddu cymaint ganddyn nhw. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yngwneud ein gorau i warchod ac ymestyn ein hetifeddiaeth naturiol a diwylliannol, mae angen i’n huchelgais yn awr fynd ymhell y tu hwnt I lefydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yna filiynau o bobl sy’n gofalu ac sydd eisiau gweithredu – rydym yn cwrdd â hwy bob diwrnod yn ein gwaith.
Byddwn yn rhoi hwb i ymdrechion codi arian ac eiriolaeth, gan gydweithredu gydag elusennau eraill i sicrhau bod rhoi yn cyd-fynd gyda’r pryder cynyddol am fyd natur a’r hinsawdd rydym ni’n ei weld ar draws cymdeithas. A byddwn angen sicrhau bod gan blant a phobl ifanc yr arfau i fod yn gadwraethwyr y dyfodol. Rydym eisiau iddynt hwy, a chenedlaethau’r dyfodol, fod yn etifeddu a chael byw mewn byd sy’n ffynnu.
Gweithio gydag arweinwyr busnes, y llywodraeth ac elusennau eraill er mwyn gwneud newid cadarnhaol ledled y DU ar gyfer byd natur a threftadaeth ddiwylliannol.
Galluogi pobl o bob cefndir i gael profiad o fyd natur, harddwch a hanes ac i ofalu am y byd sydd o’u cwmpas.
Gweithio gydag eraill er mwyn cyrraedd ac ysbrydoli mwy o bobl, gan ganolbwyntio’n ychwanegol ar blant a phobl ifanc, fel bod mwy o bobl yn teimlo bod ein hachos ni yn rhywbeth sydd ar eu cyfer hwy.
Symudiad o fewn cymdeithas gyda mwy o bobl a phartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd.
Dylanwad
Nifer y bobl sy’n cymryd camau gweithredu i gefnogi byd natur, harddwch a hanes.
Gweithredu
Mwy o bobl, ar draws pob cefndir a lleoliadau daearyddol, yn teimlo eu bod wedi cysylltu gyda byd natur a’u treftadaeth ddiwylliannol.
Cwmpas
O leiaf hanner y boblogaeth yn pryderu am fyd natur, harddwch a hanes.
Pobl gyda mwy o fyd natur, harddwch a hanes yn eu bywydau; maent yn deall, mwynhau, defnyddio ac eiriol drosto.
Cenedl sy’n fodlon buddsoddi mewn byd natur a diwylliant er eu mwyn nhw eu hunain ac ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod.
Gan helpu byd natur, un llecyn ar y tro
Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn ni er mwyn galluogi tirweddau naturiol ffynnu. Yn fwy nag unrhywbeth, mae byd natur angen gofod i wella ei hun, a dyna pam rydym yn gofyn i’r cyhoedd helpu i greu’r gofod hwnnw a dod â byd natur yn ei ôl, un llecyn ar y tro.
Bachgen yn dal coeden ifanc yn y diwrnod plannu coed cymunedol ar Ystâd Holnicote, Exmoor, Gwlad yr Haf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Trevor Ray Hart
Diwrnod Ceidwaid Ifanc yn Dunham Massey, Swydd Gaer Wedi’i hwyluso gan dîm Ceidwaid yr YG, aeth Ceidwaid Ifanc ati i gwblhau gwaith sy’n allweddol er mwyn amddiffyn a diogelu byd natur a bywyd gwyllt yn Dunham Massey | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Adnewyddu ein ffyrdd o weithio, mewn byd sy’n prysur newid
Pam adnewyddu ein ffyrdd o weithio?
Ymwelwyr yn lansiad profiad trochol Nature’s Confetti yn Outernet, Llundain Fel rhan o ymgyrch flynyddol Gwledd y Gwanwyn yr elusen, mae ymwelwyr i’r safle yn mwynhau per a harddwch ‘conffeti byd natur’ wrth iddynt brofi rhithganfyniad o betalau’n disgyn arnynt oddi uchod | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Er mwyn llwyddo mewn byd sy’n newid yn gyflym byddwn angen ehangu ein gwybodaeth a’n sgiliau er mwyn gallu eu rhannu’n fwy eang. A bydd angen tyfu ac amrywio ein hariannu er mwyn darparu gwybodaeth a sgiliau a bod yn gallu eu rhannu’n fwy eang.
Golwg o’r awyr o Draphont Castlefield, Manceinion, Manceinion Fwyaf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Ceidwad da byw yn gweithio gyda Gwartheg Duon Cymreig, pori cadwraethol ar Faes Awyr Tyddewi, Sir Benfro | © Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Rydym wedi canfod cymaint o ffyrdd i rannu gwybodaeth a sgiliau ein curaduron, haneswyr, ceidwaid a garddwyr – o gydweithredu ar gyfresi teledu mawr a gweithio gydag ymwelwyr ar brosiectau celf cyhoeddus, i brosiectau gwyddor dinasyddion cymunedol. Mae ein gwaith digidol a gwaith data yn golygu y gallwn rannu profiadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda phobl gartref a chodi arian ar raddfa fwy nag erioed o’r blaen. Mae’r strategaeth newydd yn gofyn am i ni yrru ymlaen, gan gwrdd â’n cyd-destun newydd gyda dulliau newydd.
Cymryd mantais o’r adnoddau, technolegau a dulliau newydd sydd ar gael i ni ar gyfer byd natur, bywyd gwyllt a threftadaeth ar raddfa fwy nag erioed o’r blaen.
Rydym angen gallu gweithio llawer mwy mewn partneriaeth gydag eraill. A defnyddio technolegau newydd i ofalu am y byd o’u cwmpas. Mae gwyddor dinasyddion, ymgysylltiad cyhoeddus a meithrin cynghreiriaid ond yn ychydig o’r enghreifftiau o’r gwaith rydym angen ei ehangu. Bydd ymwelwyr yn parhau i ddisgwyl profiadau gwych yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt, a byddwn angen y gallu creadigol a thechnegol i gyrraedd mwy o uchelfannau. Byddwn angen gweithlu sy’n cynnwys pobl o bob oedran ethnigrwydd, galluoedd a hunaniaethau, yn gweithio gyda’i gilydd i gwrdd ag anghenion cenhedloedd sy’n newid wrth i ni eu gwasanaethu. A byddwn angen arfogi pobl ieuengach i weithio ar gyfer y dyfodol – gan ofalu am y byd naturiol a dod â threftadaeth ddiwylliannol yn fyw. Mae amgylchedd naturiol ac iach wrth wraidd iechyd dynol, gan gynnwys cynhyrchu bwyd, a byddwn yn ffurfio
partneriaethau cryfach fyth gyda ffermwyr, cymunedau, sefydliadau ac arweinwyr er mwyn gallu gwella arferion a pholisi ffermio natur-gyfeillgar. Byddwn angen bod yn fwy effeithiol a chreadigol nag erioed o’r blaen. Byddwn angen codi arian yn fwy yn y degawd nesaf nag a wnaethom yn y ganrif ddiwethaf ac archwilio ffynonellau newydd gan gynnwys cyllid gwyrdd. Mae’n rhaid i bob punt ddarparu’r budd mwyaf posib i bobl ac i fyd natur. O waith ymchwil a chadwraeth i reoli data, mae’n rhaid i bob penderfyniad gael ei weld o safbwynt budd i’r cyhoedd a ddaw o ganlyniad iddo. Mae newidiadau yn ein hinsawdd yn golygu newidiadau yn y ffordd rydym yn delio gyda chadwraeth. Byddwn angen addasu adeiladau a thirweddau er mwyn eu gwneud yn fwy cydnerth. A byddwn angen dod o hyd i ddulliau mwy cost effeithiol a gwneud gwell defnydd o dechnoleg os ydym am gadw’r pethau rydym yn gofalu amdanynt, ymhell i’r dyfodol.
Datgloi’r straeon y tu ôl i’r casgliadau gyda Smartify
Mae gan ymwelwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd y cyfle nawr i fynd yn ddyfnach ac i ddarganfod mwy am waith celf a chasgliad porslen a drysorir sydd yn Upton House. Gan ddefnyddio ap Smartify, does ond angen taro’r sgrin a gall ymwelwyr ddatgloi straeon Upton, y Bearsteds, ac un o gasgliadau mwyaf arwyddocaol o waith celf Ewropeaidd a ddygwyd ynghyd yn y 20fed ganrif.
Monitoring birds on the Farne Islands, Northumberland | ©National Trust Images/Joe Cornish
Gan ddod â chydnerthedd hinsawdd i’r gerddi yn Beningbrough
Yr haf hwn, fe wnaethom ddatguddio gardd newydd gyffrous sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn Beningbrough yn Swydd Efrog. Cynlluniwyd gan y dylunydd arobryn Andy Sturgeon, gwnaed y prosiect hwn yn bosib diolch i rodd sylweddol gan y diweddar Mr Ian Reddihough.
Creu lle i fod i fwy o bobl ddathlu straeon Clandon Park
Prosiect Clandon Park yw un o’r proseictau mwyaf a mwyaf cymhleth mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ymgymryd ag o erioed o’r blaen. Wedi tân damweiniol yn 2015, rydym wrthi’n gwneud gwaith cadwraeth yn ofalus fel ‘tŷ gwledig moel’ – lle sy’n dathlu prydferthwch yr adeilad sydd wedi goroesi, yn rhannu straeon y dwylo niferus a’i lluniodd dros y canrifoedd ac yn darparu lle ar gyfer creadigrwydd, artistwaith a chymuned.
Yn ôl i’r her
Mae’r sgwrs yn dechrau yma
Er mwyn gwasanaethu’r gymdeithas gyfan, rydym angen ymgysylltu gyda’r gymdeithas gyfan: pobl o bob oed, ethnigrwydd, gallu a chefndir cymdeithasol.
Plentyn yn chwarae’r piano adeg y Nadolig yn Neuadd Nunnington, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Gwesteion yn sgwrsio gyda’i gilydd yn Nigwyddiad y Noddwr yn Nhraphont Castlefield, Manceinion Fwyaf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Rydym wedi defnyddio pob ymateb er mwyn helpu i greu ein strategaeth newydd. Dywedodd pobl wrthym yr hyn maen nhw eisiau iddynt eu hunain a’u plant, a beth maen nhw eisiau i’r Ymddiriedolaeth ei wneud.
Dechreuodd y gwaith yma gyda ni’n gofyn cwestiynau
Darllen y Map Blossomtown yn Sgwâr St Pedr, Manceinion, Manceinion Fwyaf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ‘er budd y genedl’. Tra ein bod yn gofalu am lefydd, mae’n rhaid i bobl a budd y cyhoedd fod yn rhan ganolog o’n holl waith. Byddwn yn rhoi pobl a byd natur ym mhob un o’n gweithredoedd.
Budd y cyhoedd oedd ein man cychwyn ac mae’n parhau i fod felly
Rydym yn bwriadu adnewyddu cysylltiadau rhwng pobl ein tair gwlad, a’r byd natur, harddwch a’r hanes rydym ni’n ei rannu, trwy ein nodau. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn y gwaith adfer yma, ac mae gennym gyfle unigryw i lunio diwylliant yr Ymddiriedolaeth yn un y gallwn fod yn falch ohono yn y dyfodol – un lle y gall pawb ddod o hyd i rywbeth y maent eisiau bod yn rhan ohono.
Nid dyma ddiwedd y sgwrs, dyma lle mae’n dechrau
3,371
o aelodau o’r cyhoedd* dros 25 oed
o bobl ifanc 16-24 oed
1,071
Gan bwy wnaethom ni glywed?
o aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaetho
66,727
o gyfoedion mewn sefydliadau cyhoeddus, preifat ac elusennol
130
o staff a gwirfoddolwyr
2,070**
*Bydd rhai aelodau o’r cyhoedd hefyd yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fodd bynnag gan eu bod yn adrodd am hyn eu hunain, doedden nhw ddim yn cael eu cynnwys mewn niferoedd aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. **Amcangyfrif yw’r rhif: mae’n bosib bod gorgyffwrdd wedi bod rhwng y grwpiau. At bwrpas y sampl hwn, rydym wedi amcangyfrif bod o leiaf wyth aelod o staff/gwirfoddolwr wedi cyfranogi ym mhob un o’r 244 o sesiynau gweithdy.
Ymwelwyr yn mwynhau’r Azaleas yn eu blodau ym mis Mai ym Mharc a Gardd Sheffield, Dwyrain Sussex | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Arnhel de Serra
Ymwelwyr yn darganfod y Grisiau Paentiedig yn Neuadd tŷ gwledig yng Ngardd a Neuadd Hanbury, Swydd Caerwrangon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Miller
Beth wnaethon nhw ddweud wrthym ni?
1
Mae pobl yn teimlo’n falch ac yn optimistig ynghylch mannau gwyrdd, treftadaeth a diwylliant, hyd yn oed mewn amseroedd heriol.
Mae pobl yn teimlo’n ofalgar tuag at fyd natur ac yn cydnabod cymaint o fudd sy’n dod ohono. Ond nid ydynt yn teimlo bod byd natur o dan fygythiad i’r un graddau ag yr oedd ein rhanddeiliaid.
2
Nid yw treftadaeth yn teimlo’n hynod berthnasol i’r cyhoedd yn eu bywyd o ddydd i ddydd, ond maent yn gwerthfawrogi ei bwysigrwydd i’r DU yn ei chyfanrwydd. Mae ein rhanddeiliaid yn teimlo bod y sector treftadaeth yn wynebu heriau nad yw erioed wedi’u hwynebu erioed o’r blaen.
3
Mae llawer o bobl wedi clywed am yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac maent yn teimlo’n gadarnhaol tuag atom, ond mae cysylltiadau’n weddol gyfyngedig. Mae hynny’n cyfyngu ar nifer y bobl sy’n teimlo bod yr Ymddiriedolaeth yn rhywbeth iddynt hwy.
4
Mae ein cymheiriaid yn teimlo bod ein strategaeth bresennol wedi bod yn gam yn y cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, maent yn credu y bydd y degawd nesaf yn dod â heriau hyd yn oed yn fwy ac â mwy o frys iddynt na’r un diwethaf.
5
Mae pobl yn gweld gwerth yn dod yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o’r mynediad am ddim mae’n ei ddarparu i sut mae’n helpu ein gwaith cadwraeth. Mae’r ddau beth yma yn eu cymell i ymuno gyda ni.
6
Tywysydd ystafelloedd gydag ymwelwyr yn yr Oriel Hir yn Neuadd Sudbury ac Amgueddfa Plentyndod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Swydd Derby | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Chris Lacey
Ymwelwyr ar y traeth tywodlyd yn Portstewart Strand, Swydd Londonderry | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Sut mae ein gorffennol yn ein hysbrydoli ni i feddwl a gweithredu
Ymwelwyr yn archwilio’r grisiau mawreddog yng Nghastell Powis, y Trallwng, Cymru | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Mae cydweithredu yn rhan greiddiol o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – cawsom ein sylfaenu ar y gred hon. Am 130 o flynyddoedd, yn wyneb diwydiannu, datblygiad, a masnacheiddio, mae pob cenhedlaeth wedi gweithredu’n hael ac wedi defnyddio grym yr Ymddiriedolaeth i amddiffyn byd natur, harddwch a hanes ein cenedl. Maent wedi gadael awyr iach, mannau agored, tirweddau, adeiladau hardd, celf a chrefft a thrysorau amhrisiadwy i ni. O barseli bychain o dir i Glogwyni Gwynion Dofr, o dai diymhongar i gestyll anhygoel. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi amddiffyn gofodau arbennig i bawb eu mwynhau.
Allwn ni fyth wneud yr hyn rydyn ni’n ei gyflawni gyda’n gilydd ar wahân
Mae byd natur, harddwch a hanes yn bethau sydd wedi
cael eu brwydro amdanynt, ar ein cyfer ni, a chan bobl fel ni
Ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, fe wnaeth gweithwyr ffatri o Fanceinion, Lerpwl, Leeds a Birmingham ateb apêl yr Ymddiriedolaeth i achub Ardal y Llynnoedd rhag cael ei dinistrio. Roedd y rhain yn bobl wnaeth weithio mewn amgylchiadau nad oes modd eu dychmygu, rhai ohonynt yn byw mewn tlodi eu hunain. Ond fe wnaethon nhw roi fel bod eraill yn gallu cael yr hyn nad oedden nhw erioed wedi’i weld na’i fwynhau. Wedi cyflafan a dinistr y Rhyfel Byd Cyntaf, fe wnaeth teuluoedd oedd wedi colli meibion roi rhoddion o dir fel bod tâl meini gwych a chopaon yn gallu cael eu rhannu a’u mwynhau gan bawb. Defnyddiodd Beatrix Potter enillion ei llyfrau i brynu ffermdir a darn o gefn gwlad ac fe’u rhoddodd i’r Ymddiriedolaeth i’w cadw’n ddiogel. Wedi’r Ail Ryfel Byd, daeth pobl a llywodraethau at ei gilydd i achub adeiladau, gerddi ac ystadau gwledig er mwyn i’r genedl gyfan gael budd ohonynt. Pan roedd perygl y gallai cartref Wordsworth gael ei ddymchwel, daeth pobl Cockermouth at ei gilydd i’w brynu a’i roi yn ein gofal ni.
Ymwelwyr yn edmygu’r portreadau o William Wordsworth a Samuel Coleridge yn Neuadd y Grisiau yn Allan Bank a Grasmere, Cymbria | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Y Tŷ a’r gerddi yn Hill Top, Cymbria | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Derry Moore
Golwg o’r awyr o reoli afonydd ac ailgysylltu gorlifdir yn Brotherswater, Cymbria | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Nawr, mae’r cennin Pedr sy’n tyfu yn yr ardd ac yn nhŷ Wordsworth ar gael i bawb eu mwynhau. Mae’r goeden y dywedir i Syr Isaac Newton fod yn edrych ar afal yn disgyn yn dal i flodeuo – yn oedrannus ac yn ysblennydd – yn ei ardd. Diolch i roddion ein rhagflaenwyr a’n hymdrechion i godi arian, rydym ni i gyd berchen Clogwyni Gwynion Dofr, y Needles a Sarn y Cawr. Gallwch gerdded ar hyd arfordir Cernyw a gwylio lliwiau dyfroedd yr Iwerydd yn newid – y rhain a fu unwaith yn ysbrydoliaeth i arlunwyr a beirdd o fri, ac sy’n parhau i ysbrydoli heddiw. Gallwch gerdded ar hyd arfordir Cymru o’r gogledd i’r de, gydag un cam ym mhob deg ar dir sy’n cael ei ofalu amdano gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae casgliadau o waith celf, crefft a llyfrau yn adrodd hanes lleol ac o amgylch y byd – sy’n cynrychioli sgiliau a gwybodaeth ein cyndeidiau o amgylch y byd – a thir oedd yn eiddo preifat unwaith, nawr yn eiddo i bawb.
Unwaith yn eiddo iddynt hwy, bellach yn eiddo i bawb
Sesiynau Forthlin Road, Lerpwl | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Sonny McCartney
Llun o’r awyr o Mullion Cove, Cernyw Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol i wella strwythur y morglawdd a’i allu i wrthsefyll stormydd y gaeaf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Mae bron i 6 miliwn o aelodau yn cefnogi gwaith Yr Ymddiriedolaeth. Mae pobl yn mynd ar 150 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn i’n hoff lefydd. Bydd hynny’n parhau ac yn tyfu. Mae aelodaeth ac ymweliadau â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn parhau i fod yn sylfaen i’n holl waith, a byddwn yn parhau i ymdrechu i sicrhau gwell ansawdd, mwy o fwynhad a mwy o resymau i ddychwelyd. Cawsom ein sefydlu er mwyn hyrwyddo gofal parhaol llefydd o ddiddordeb hanesyddol a harddwch naturiol. Dydym ni erioed wedi gwneud hyn drwy weithio ar ein pen ein hunain, dim ond ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ond mae’r bygythiad sy’n wynebu natur a’n llefydd hanesyddol yn awr yn golygu y byddwn angen ymestyn ymhellach nag erioed y tu hwnt i’n ffiniau er mwyn hyrwyddo eu gofal. Oherwydd bod yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn symudiad cyson o bobl yn gweithio gyda’i gilydd i warchod ein gorffennol, rydym yn gwybod sut i helpu nifer o bobl i weithredu gyda’i gilydd i greu gwell dyfodol – i bawb.
Nid yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erioed wedi sefyll yn llonydd, ac ni fydd fyth yn gwneud hynny
Y tirlithriad yn Thorncombe Beacon, Dorset | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Miller
The Hardwick Tapestry (Gideon Attacking the Midianites 1578) being worked on in the Long Gallery at Hardwick Hall, Derbyshire | ©National Trust Images/Trevor Ray Hart
Drag left and right to view more images
A footpath through the Gorse, leading to Agglestone Rock at Godlingston Heath in Dorset | ©National Trust Images/John Miller
Y prosiect
Madfall y Tywod (Lacerta agilis) yn Studland, Dorset | ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Ros Hoddinott
Y canlyniadau
Yn ymestyn dros 3,331 hectar, mae’r ‘uwch warchodfa natur’ yn Purbeck Heaths yn dwyn ynghyd 11 o gynefinoedd blaenoriaeth ac yn darparu tirwedd gysylltiol ar gyfer y rhywogaethau niferus sy’n byw yno. Nawr bod gennym dirwedd gysylltiol mor fawr, rydym yn ailgyflwyno’r prosesau naturiol fydd yn galluogi byd natur i ffynnu a bod yn fwy cydnerth: o bori gwyllt ac afancod yn byw’n rhydd i waith adfer mawndiroedd ar raddfa eang.
Mae Purbeck Heath eisoes yn un o’r llefydd sydd â’r mwyaf o fioamrywiaeth yn y DU. Drwy ei ailgysylltu yn ôl fel tirwedd unigol, tynnu milltiroedd o ffensio mewnol ac adnewyddu prosesau naturiol, rydym yn creu tirwedd fwy deinamig, a chysylltiol sy’n gallu bod yn fwy cydnerth yn wyneb traweffaith newid hinsawdd. Rydym wedi creu tirwedd well ar gyfer pobl hefyd – gan weithio ar draws partneriaid i ddarparu profiadau gwell i ymwelwyr a chymunedau lleol, ac amddiffyn cynefinoedd bregus tra’n cefnogi sector ecodwristiaeth sy’n tyfu.
Y traweffaith
Purbeck Heaths: Gwarchodfa Natur Genedlaethol ar gyfer Bywyd Gwyllt a Phobl
Gwarchodfa natur ‘fawreddog’ yn Purbeck Heaths
Darllen
Creu cynefin gwlypach ar gyfer sefydlu ecosystem tir gwlyb newydd gyda phlanhigion a bywyd gwyllt prin yn Greenlands Mire, Purback, Studland Bay, Dorset | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Sophie Bolesworth
David Elliot, Prif Geidwad, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cymaint o waith caled dros gymaint o flynyddoedd, gan gymaint o bobl.
Ceidwaid yn ymgymryd â thasgau i adfer cors fawn ym Mynyddoedd Mourne, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Llusgo i’r chwith a’r dde er mwyn edrych ar fwy o brosiectau
Prosiectau perthnasol
Ceidwad Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cadw golwg ar y tir yn Holnicote un flwyddyn ymlaen wedi cwblhau’r prosiect adfer afonydd, Gwlad yr Haf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Beck
Pobl yn marchogaeth ceffyl ar Godlingston Heath, Studland, Dorset. Mae yna dros 54 milltir o lwybrau cerdded a marchogaeth i ymwelwyr eu darganfod yn Purbeck | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Creu cynefin gwlypach ar gyfer sefydlu ecosystem tir gwlyb newydd gyda phlanhigion a bywyd gwyllt prin yn Greenlands Mire, Purbeck, Studland Bay, Dorset | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Sophie Bolesworth
Ceidwaid yn paratoi i gludo rholiau rhisgl coconyt ar droed i’r ardal sydd wedi'i heffeithio, Mynyddoedd Mourne, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Mae peth o’n mawndir wedi ei ddifrodi yn y gorffennol gan waith draenio, gor-bori, llosgi a thynnu mawn. Rydym yn gweithio’n galed i wyrdroi’r traweffeithiau negyddol yma ac rydym nawr yn rheoli ac yn adfer nifer o ardaloedd er mwyn creu ecosystemau cydnerth, fydd yn cynyddu’r capasiti i storio carbon a lleihau allyriadau.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol yn nifer o’r mawndiroedd rydym yn gofalu amdanynt. Bydd ein cydweithredu gyda sefydliadau eraill yn golygu y gallwn ymgysylltu gyda chymunedau gyda’n gwaith, adfer ardaloedd yn gynt ac ariannu gwaith ymchwil ar gyfer prosiectau eraill yn y dyfodol.
Gwarchod ein mawndiroedd | Newid Hinsawdd
Golygfa o’r awyr o waith adfer mawndir yn Crey Moss, Yorkshire Dales, Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Shelly Rhodes,Cydlynydd Partneriaethau Lleol, Adfer Mawndir
Adfer mawndir yw’r peth unigol mwyaf y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.
Mae 2%
o gyfanswm y carbon yn y DU yn fawndir rydym ni’n gofalu amdano yng Nghymru a Lloegr
Golygfa dirwedd ar ddiwrnod heulog yn Wicken Fen, Swydd Caergrawnt | www.johnmillerphotography.com
Glas y Dorlan (Alcedinidae) yn Ystâd Holnicote, Gwlad yr Haf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Barry Edwards
Llwyddom i sicrhau adferiad cam sero ar raddfa fawr cyntaf y DU: techneg newydd i adfer afon i’w chyflwr gwreiddiol, cyn ymyrraeth ddynol. Fe wnaeth y prosiect ailgysylltu 1.2km o afon a addaswyd i’w gorlifdir, gan greu saith hectar o forluniau a thiroedd gwlyb, hanfodol ar gyfer arafu llif y dŵr, storio carbon a darparu cartrefi i fywyd gwyllt.
Rydym wedi gweld twf anferth mewn bywyd gwyllt, gan gynnwys pryfetach, amffibiaid ac amrywiol rywogaethau o adar. Yn y dyfodol bydd hyn yn darparu’r cynefin perffaith ar gyfer yr afanc Holnicote, a gyflwynwyd i’r ystâd yn 2020. Mae’r cynnydd mewn cysylltedd gorlifdir a storio yn arafu’r llif, gyda lleihad o 38% yn y briglif, gan amddiffyn cymunedau i lawr yr afon rhag llifogydd.
Prosiect Riverlands Porlock Vale, Gwlad yr Haf
Allow video to play? This page contains content that is published to YouTube.
We ask for your permission before anything is loaded, as this content may introduce additional cookies. You may want to read the Google YouTube terms of service and privacy policy before accepting.
Accept and view
Cancel
Golyga eang o Bossington a Prolock, Gwlad yr Haf, yn dangos ffermdir ac arfordir. Mae’n dangos lle mae’r cynefin morfa heli wedi’i chreu o waith ailosod arfordirol yn Bossington. Mae hon yn encilfa sydd wedi’i rheoli’n gynnar, gan greu cynefin newydd yn yr ardal. Mae’n rhan o Ystâd Holincote | ©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Ros Hoddinott
Ben Eardley,Rheolwr Prosiect
Gallwch ei weld; gallwch ei glywed. Ers y gwaith adfer mae yna gynnydd enfawr wedi bod mewn bywyd gwyllt.
Cynnydd o 1780%
o ran cynefin dyfrol
800 tunnell
o bren marw yn darparu cynefin newydd i amrywiaeth o rywogaethau
25,000 o goed
a 4,000 o blanhigion tir gwlyb wedi’u plannu
250 kg
o hadau blodau gwyllt yn cael eu hau er mwyn denu peillwyr
Cenau afanc (Castor canadensis) yn Ystâd Holnicote, Gwlad yr Haf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Barry Edwards
Dehongliad artist o'r cynefin tir gwlyb a grëwyd gan y prosiect yn Sandilands | ©Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Peter Farmer/Wayne Lagden
Gan weithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau lleol, rydym yn trawsnewid hen gwrs golff yn brofiad byd natur gydol y flwyddyn ar gyfer pawb. Rydym yn bwriadu creu cynefinoedd newydd ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn arbennig adar sy’n mudo, megis y rhostog cynffonddu, y pibydd mannog a’r llydanbig.
Bydd trawsnewid y dirwedd yn dod â Sandilands yn ôl i’w wreiddiau naturiol. Yn y warchodfa tir gwlyb newydd yma, bydd dŵr agored, ynysoedd gwelyau brwyn a phyllau gyda rhodfeydd a llwybrau pren, yn rhan o ofod y gall pawb fwynhau buddion bod ynghanol byd natur.
Gwarchodfa Natur Sandilands, Swydd Lincoln
Pobl yn cerdded ar hyd y traeth yn Sandilands, Swydd Lincoln | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Miller
Katie Scott,Ceidwad Ardal Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Yn Sandilands, ein nod yw datblygu amgylchedd arfordirol sy’n ffynnu ar gyfer bywyd gwyllt, cymunedau lleol ac ymwelwyr.
Tŵr gwylio Anderby yn Sandilands, Swydd Lincoln | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Cerdded yn Divis a’r Black Mountain, Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Chris Lacey
Dros dair blwyddyn, byddwn yn creu coridor gwyrdd fydd yn darparu mynediad ar droed o’r ddinas i un o’i mannau gwyrdd trefol mwyaf. Byddwn yn adfer mawndir a chynefin, yn ogystal â gwella seilwaith a gwaith dehongli er mwyn cefnogi ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr. Byddwn hefyd yn darparu mwy o gyfleoedd i gymunedau lleol ymgysylltu gyda byd natur, harddwch a hanes ar stepen eu drws a chael budd ohono.
Bydd y prosiect hwn yn sicrhau y gall cymunedau lleol ymgysylltu gyda threftadaeth leol a harddwch naturiol mewn ffordd hawdd. O gyfleoedd i wirfoddoli a chyflogaeth ymlaen at ddatblygu llefydd newydd i’r gymuned eu defnyddio, bydd pobl yn gallu bod yn rhan o hyn, dysgu sgiliau a chwarae rhan yn gofalu am y dirwedd hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ffilm golwg i’r dyfodol
Prosiect Divisis, Belfast
Llwybr y Grib gyda byrddau cerdded yn Divis Mountain yn Divis a’r Black Mountain, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Annapuma Mellor
Heather McLachlan,Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gogledd Iwerddon
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau ariannu ar gyfer y prosiect hwn sy’n anelu i wneud Divis a’r Black Mountain yn gynhwysol ym mhob ystyr o’r gair.
£1.1 miliwn wed’i gyfrannu
gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
£300,000 o roddion
gan Sefydliad Garfield Weston
Grant £1.5 miliwn
gan Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
£3 miliwn wedi’i ddyfarnu
gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
200,000 o bobl
yn ymweld â Divisis a’r Black Mountain bob blwyddyn
Chwilio am bryfetach yn y twyni tywod yn Portstewart Strand, Swydd Londonderry | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Chris Lacey
Golygfa banoramig yn Divis a’r Black Mountain, Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Glöyn byw wedi glanio ar flodyn yn Divis a’r Black Mountain, Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Restore nature
Bug hunting in the sand dunes at Portstewart Strand, County Londonderry | ©National Trust Images/Chris Lacey
Golygfa o’r awyr o Portstewart Strand, Gogledd Iwerddon | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Yn ogystal â mynediad, cyfleusterau newid a thoiledau wedi’u cynllunio’n ofalus, mae’r traeth yn darparu cynllun benthyg offer symudedd traeth am ddim. Mae hyn yn cynnwys offer megis cadeiriau olwyn traeth a fframiau cerdded traeth a matiau traeth sy’n galluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn a’u teuluoedd i fwynhau’r tywod neu nofio yn y môr.
Ynghyd â Sefydliad Mae Murray, rydym wedi gwneud Portstewart Strand yn gyfan gwbl hygyrch. Erbyn hyn mae’n fan lle y gall pobl o bob oedran a gallu deimlo’n gartrefol.
The Big Help Out yn Portstewart Strand
Portstewart Strand: Traeth Cynhwysol
Chwilio am bryfetach yn y twyni tywod yn Portstewart Strand, Swydd Londonderry | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Conor O'Kane,Ymwelydd o Portglenone
Rwy’n 34 oed a dyma fy nhro cyntaf erioed ar draeth Portstewart ... mae’n syfrdannol.
Mae dros 650 o ymwelwyr
wedi defnyddio’r gwasanaethau cynhwysol yma oddi ar 2022
Mae 100,000 o bobl
yn ymweld â’r traeth yn Portstewart Strand bob blwyddyn
Person yn cerdded ci ar y traeth yn Portstewart Strand, Swydd Londonderry | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
Tri phlentyn yn chwilio am bryfetach yn Portstewart Strand, Swydd Londonderry | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/John Millar
End unequal access
Pobl yn ysgrifennu eu meddyliau a’u teimladau ar y wal “Beth allai’r man gwyrdd hwn ei fod i chi?” yn Nhraphont Castlefield ym Manceinion | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Yn y cam cyntaf, fe wnaethom greu parc trefol dros dro yn gorchuddio hanner dec y draphont. Gweithiom gyda phartneriaid lleol er mwyn datblygu ardaloedd gardd unigryw i ymwelwyr eu darganfod ac rydym wedi croesawu ymhell dros 170,000 o bobl hyd yma.
Mae 98% o ymwelwyr wedi dweud wrthym ni ein bod ni eisiau i’r draphont fod yn barhaol. Gan weithio gyda’r gymuned, rydym wedi datblygu gweledigaeth mwy hirdymor o ‘werddon werdd’ 1km y gellir cael mynediad am ddim ato a llwybr trwodd. Bydd yn le sy’n parchu’r strwythur rhestredig tra’n dathlu hanes, yn ogystal â chyd-fynd gyda’r cynlluniau presennol ar gyfer y ddinas.
Ein gwaith Traphont Castlefield, Manceinion
Podlediad Secret Sky Garden
Gwrando
Dathliad pen-blwydd cyntaf Traphont Castlefield, Manceinion | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Dyfyniadau gan ymwelwyr
Mae’n werddon fach mewn dinas orlawn, wirioneddol brysur...
Mae unrhywbeth sy’n gallu diogelu’r harddwch rwy’n ei gofio yn blentyn yn cael marciau llawn gen i.
Mae’n hanfodol cael llefydd fel hyn, yn arbennig felly mewn dinasoedd lle nad ydych chi'n dod o hyd i lawer o fannau gwyrdd.
Digwyddiad cymunedol min nos yn Nhraphont Castlefield, Manceinion | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Beck
Golygfa o ran o’r draphont fel ag yr oedd cyn iddo gael ei drawsffurfio, Traphont Castlefield, Manceinion | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Cadwraethwyr yn gweithio ar brosiect adfer Clandon Park, Clandon Park, Surrey | ©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Andreas von Einsiedel
Pythefnos wedi’r tân dinistriol yn Clandon Park, Surrey. Ar ddydd Mercher 29 Ebrill cafwyd tân yn Clandon Park, Surrey, plasty o’r 18fed ganrif. Lledaenodd tân drwy’r adeilad gan achosi difrod sylweddol. Roedd Clandon Park yn un o’r enghreifftiau mwyaf cyflawn yn y Du o blasty Paladaidd ac roedd yn cynnwys casgliad pwysig o ddodrefn, porslen a thecstiliau o’r 18fed ganrif | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Mynychwr arddangosfa gyhoeddus, 2024
Mae cymaint i’w ddysgu a’i gweld na all tai gwledig eraill fyth ei gynnig.
Ein cenhadaeth: Dathlu pawb a roddodd help llaw wrth gynhyrchu Clandon
Ffilm y tu ôl i’r llenni
Derbyn ac edrych
Nid yw pwysigrwydd Clandon wedi’i ddal mewn amser; mae’n esblygu’n barhaus. Yn y dyfodol, byddwn yn croesawu mwy a mwy o ymwelwyr i dai sy’n hygyrch dros y byd i gyd, i gymryd rhan mewn ymatebion creadigol i’r adeilad a’i hanes ac i greu atgofion newydd. Yn ei dro, bydd arwyddocâd a phwysigrwydd y gymuned leol a thu hwnt yn parhau i dyfu.
Rydym wedi croesawu dros 75,000 o bobl yma ers 2015, ac mae eu hymatebion wedi dangos i ni pa mor bwerus ac atgofus yw Clandon. Mae’n fan sydd eisoes wedi darparu llwyfan i fwy o bobl adrodd eu hanes, megis prosiect celf cymunedol cydweithredol yr arlunydd Harold Offeh 2024, ‘The Lounge’. Dyma’r comisiwn cyntaf mewn partneriaeth rhwng Lightbox Gallery a Clandon ac fe weithiodd Harold gyda grwpiau cymunedol wnaeth ddwyn ysbrydoliaeth o Clandon a Woking i greu eu hargraffiadau hwy o ‘gartref’ ar gyfer y darn.
Mae dros 75,000
o bobl wedi ymweld â Clandon ers y tân yn 2015
Cerfluniau wedi’u diogelu ar gragen y wal ar gyfer cadwraeth wedi’r tân yn Clandon Park, Surrey, 13eg Ionawr 2016 - wedi’r tân | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Defnyddio’r ap Smartify yn Nhŷ a Gardd Upton, Swydd Warwick | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Dŵr yn rhaeadru drwy’r pibelli metal ac yn llifo i’r pwll yn yr Ardd Ganoldirol newydd yn Beningbrough, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Related projects
Drag left and right to view more projects
Ymunodd dros dair mil o bobl o bob oed a chefndir gyda ni ar gyfer ‘Rang Barse – Lliwiau dros Gastell Corfe’. Er mwyn nodi’r ŵyl Hindwaidd o liw, cariad a’r gwanwyn, roedd yna stondinau lliwgar, addurnedig ar y gwrthglawdd allanol oedd yn cynnig snaciau a bwyd Indiaidd, paentio henna, celf a chrefft ac ardal ar gyfer cerddoriaeth Bollywood a dawnsio.
Meddai Anjali Mavi o Gymdeithas Indiaidd Bournemouth, Poole a Christchurch: ‘Mae’r ffaith ei fod yn cael ei gynnal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn fwy arbennig fyth oherwydd mae’n golygu ein bod yn estyn allan i gynulleidfa ehangach, fwy amrywiol, gan gynnwys pobl na fyddai o bosib yn ymweld fel arfer. Mae’n ymwneud â dod â gwahanol gymunedau at ei gilydd a dathlu amrywiaeth.’
Time + Space Awards
Play
Nisha Sarkar,Ymwelydd yn ‘Rang Barse – Colours over Corfe Castle’
Rwy’n gweld eisiau dathlu yn India. Ond mae’n anhygoel cael y dathliad ger castell mor hardd.
IMAGE TBC
Paentio dwylo gyda henna yn y digwyddiad Rang Barse Holi yng Nghastell Corfe, Dorset. Gŵyl Hindŵaidd sy’n cael ei dathlu fel gŵyl lliwiau, cariad a’r gwanwyn | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Sophie Bolesworth
Ymwelwyr yn mwynhau digwyddiad Rang Barse Holi yng Nghastell Corfe, Dorset | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Sophie Bolesworth
Ystudfachwyr, jyglwyr a cherddorion canoloesol yn gorymdeithio ar y stryd yn ystod digwyddiad Diwrnodau Agored Treftadaeth yng Nghaerloyw, Swydd Caerloyw | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Diwrnod Agored Treftadaeth yn Baddesley Clinton, Swydd Warwick | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Chris Lacey
Mae’r ŵyl yn cynnig arddangosiad blynyddol amrywiol, o ryfeddodau pensaernïol i draddodiadau diwylliannol megis canu caneuon sianti. Mae’r mynediad yn rhad ac am ddim, gan gyrraedd cynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael cyfle i brofi eu treftadaeth leol. I un rhan o bump o’n hymwelwyr, dyma eu hunig ymweliad i le treftadaeth ar hyd y flwyddyn.
Yn 2024, fe wnaeth yr ŵyl ddathlu tri degawd o gysylltu cymunedau a’u helpu i ddarganfod straeon ar stepen eu drws. Y llynedd, fe wnaeth dros filiwn o ymwelwyr fwynhau’r 5,427 o ddigwyddiadau, gan gyfrannu £11.5 milliwn i’r economi leol, gyda dau draean o ymwelwyr yn gwneud cyfraniad pan gawsant y cyfle i wneud hynny.
Darganfyddwch ŵyl Hanes a Diwylliant fwyaf Lloegr
Diwrnodau Agored Treftadaeth | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cwpwl yn cymryd hunlun gyda’r cerddorion canoloesol yn ystod y digwyddiad Diwrnodau Agored Treftadaeth, Caerloyw, Swydd Caerloyw | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Chris Lacey
Ymwelydd Diwrnodau Agored Treftadaeth 2024
Rwy’n teimlo bod gen i fwy o gysylltiad gyda fy nghymuned leol.
82% o ymwelwyr
yn dweud bod ymweld wedi gwneud iddynt deimlo’n falch o’u hardal leol
2,354 o drefnwyr lleol
yn ein helpu ni i gynnal yr ŵyl
5,427 o ddigwyddiadau
fel rhan o ŵyl 2024
Perfformiadau thema rhaglywiaeth yn yr ystafell ddawnsio Tŷ St John yn ystod digwyddiad Diwrnodau Agored Treftadaeth yn Winchester, Hampshire | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yn cael ei dathlu gyda cherddoriaeth regae yn rhan o’r ŵyl Diwrnodau Agored Treftadaeth ym Mhlasty a Gardd Wightwick, Gorllewin Canolbarth Lloegr | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Coetiroedd, mawndiroedd a gwalltiroedd amrywiol dan ein gofal | ©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Hyfforddwr y Ganolfan Awyr Agored a phlentyn yn edrych dros Lyn Ogwen a Thryfan tuag at Ogwen, Eryri, Gwynedd, Cymru | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Tom Simone
Enillydd categori Byd Natur a Hinsawdd Gwobr Amser a Lle, Cristina Essien yn Woolsthorpe, Swydd Lincoln | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Trevor Ray Hart
Cacwn yn casglu neithdar ar goeden geirios binc ym Mharc Shernigham, Norfolk | ©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rob Coleman
Inspire millions
Various woodland, peatland and grasslands in our care | ©National Trust Images
Helping nature one plot at a time
Ogwen, Snowdonia, Gwynedd, Wales. Outward bound instructor and climber overlooking Llyn Ogwen and Tryfan | ©National Trust Images/Tom Simone
Helping more young people connect with the outdoors
Time + Space Award winner in the Nature and climate category, Cristina Essien at Woolsthorpe, Lincolnshire | ©National Trust Images/Trevor Ray Hart
Inspiring young people to shape the future
Bumblebee nectaring on pink cherry blossom at Sheringham Park, Norfolk | ©National Trust Images/Rob Coleman
Helping people and communities blossom
Blodau yw’r harddwch sydd gennym ar stepen ein drws. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gysylltu pobl gyda byd natur a chyrraedd cymunedau sy’n cael eu tan-wasanaethu, fel bod cymaint â phosib o bobl yn gallu dathlu prydferthwch planhigion yn eu blodau bob gwanwyn. Gyda’n gilydd, rydym yn trefnu digwyddiadau, yn creu gofodau gwyrdd ac yn plannu coed blodau ar hyd a lled Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Ers 2020 rydym wedi cyrraedd bron i 100 milliwn o bobl gyda blodau, wedi plannu mwy na 68,000 o wrychoedd a choed, ac wedi cynnal dros 3,000 o ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol.
Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cysylltu gyda byd natur yn agos at lle maent yn byw. Yn y prosiect hwn, rydym yn gweithio gyda chymunedau er mwyn helpu i greu mannau gwyrdd iddynt gael dod ynghyd a phrofi byd natur yn lleol.
Sut yr ydym yn helpu cymunedau i ffynnu
Blossom in Birmingham, Canolbarth Lloegr, y DU. Gerddi pop-yp Gwledd y Gwanwyn yng nghanol y ddinas a rhaglen gymynrodd plannu coed o amgylch y ddinas | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Marie-Claire Denyer,Cyd-sylfaenydd Street Trees for Living
Mae’n gwneud i chi sylweddoli nad ydych chi ar wahân i fyd natur. Chi yw byd natur.
Mae 500 o goed blodau
wedi cael eu plannu o amgylch llwybr bws Rhif 11 Birmingham
4 miliwn
Dyna’r nifer o goed blodau y byddwn yn eu plannu erbyn 2030
Gweithdy crefft ar gyfer ymwelwyr yn ystod gŵyl Festival of Bloom, yn Nhraphont Castlefield, Manceinion, Manceinion Fwyaf | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Coeden afalau Isaac Newton wedi’i hamddiffyn gan ffens helyg yn yr ardd gyda’r ffermdy yn y cefndir yn Woolsthorpe Manor, Swydd Lincoln | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
David Olusoga OBE,beirniad, Celf a Chrefft
Pobl ifanc yn aml yw’r bobl sy’n newid y byd.
Cristina Essien,enillydd, Byd Natur a Hinsawdd
Pan rydym ni’n cysylltu gyda byd natur, rydym yn teimlo’r angen i’w warchod.
Gwobr Amser + Gofod
Cwrdd â’r enillwyr
‘Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn perthyn i’r genedl. Rydym eisiau eu defnyddio er mwyn ysbrydoli’r dyfodol yn ogystal ag archwilio’r gorffennol. Mae’r wobr hon am agor lle sy’n byrlymu o arwyddocâd hanesyddol a gwahodd pobl ifanc heddiw i’w ddefnyddio i ddeall, darganfod a herio’r ffordd rydym ni’n gweld y byd.’Celia RichardsonCyfarwyddwr Cyfathrebu a Chodi Arian, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Fe wnaethom dderbyn cannoedd o syniadau ysbrydoledig ar draws ein pedwar categori. Cafodd bob un o’r ymgeiswyr llwyddiannus eu dethol gan banel o feirniaid ac arbenigwyr yn eu maes, gan gynnwys David Olusoga OBE, Y Fonesig Dr Maggie Aderin-Pocock, Megan McCubbin a Tayshan Hayden-Smith. Roedd y syniadau buddugol yn amrywio o gynllun mentora i gefnogi plant sydd â nam ar eu golwg a phant dall, i brosiect mapio hanes cymunedol a chymdeithasol.
Y pedwar beirniad, y Fonesig Ddr Maggie Aderin-Pocock, David Olusoga, Tayshan Hayden-Smith a Megan McCubbin yn lansio Gwobr Amser a Lle Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Fabio D
Cafodd 3 miliwn o bobl ifanc
16-25 oed syniad yn ystod y pandemig nad ydynt wedi gallu gwneud iddo ddigwydd eto
Enfys o olau yn Siambr y Neuadd ym Mhlasty Woolshthorpe gyda darluniadau gwyddonol ar y waliau | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Enillydd categori Celf a Diwylliant Gwobr Amser a Lle, Emily LeHegarat yn Woolsthorpe, Swydd Lincoln | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Trevor Ray Hart
Stilt walkers, jugglers and medieval musicians marching on the street during the Heritage Open Days event in Gloucester, Gloucestershire | ©National Trust Images/Chris Lacey
Inviting people to explore their local heritage
Bob blwyddyn mae Outward Bound yn darparu cyrsiau preswyl ym mynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau i dros 7000 o blant, nifer o leoliadau trefol a chanol dinasoedd. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod eu profiad yma wedi cael effaith bositif ar eu gwytnwch, eu sgiliau rhyngbersonol a’u lles emosiynol.
Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Outward Bound er mwyn helpu pobl ifanc i fyw bywyd iachach a boddhaus. Mae’n enghraifft o sut allwn ni gyflawni cymaint mwy pan mae sefydliadau fel ein hun ni yn dod at ei gilydd.
Golygfeydd ar draws Llyn Ogwen tuag at Gwm Idwal. Y Carneddau a'r Glyderau, Gwynedd | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Chris Lacey
Ibrahim, 16 myfyriwr ar ymweliad ym Mwthyn Ogwen yn Eryr
Dyw ymddangosiad ddim yn cyfrif. Mae am eich gallu i oresgyn rhwystrau, dysgu o’ch camgymeriadau a dod yn berson gwell.
Fe wnaeth 86% o fyfyrwyr wella hunan-hyder
Andi, 15 myfyriwr ar ymweliad ym Mwthyn Ogwen yn Eryr
Y penwythnos gorau o ‘addysg’ rwyf wedi’i gael yn y 15 mlynedd rwyf wedi bod ar y ddaear.
Roedd y myfyrwyr o Academi St Mark Eglwys Loegr, de Llundain
Ogwen, Eryri, Gwynedd. Hyfforddwr y Ganolfan Awyr Agored a phlentyn yn Ogwen | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Tom Simone
Rydym ni i gyd angen byd natur i fyw: drwy’r cyflenwad o ddŵr glân, drwy beillio ein cnydau a thrwy’r aer rydym yn ei anadlu. Ond mae ein hynysoedd mewn perygl, ac rydym wedi gweld mwy o ddirywiad mewn bydd natur yma na bron unrhyw le arall yn y byd. Gall deimlo’n llethol, ond gyda’n gilydd gallwn gymryd camau i wneud gwahaniaeth. Mae ‘Noddi Llecyn’ yn ffordd fach y gallwn ni gymryd cam mawr tuag at ddod â byd natur yn ei ôl.
Am gyfraniad misol, gall pobl ddod â byd natur i un o chwe ‘uwch safle natur’ a ddewiswyd yn arbennig ar gyfer eu potensial i adfer byd natur ar draws dirweddau cyfan. Mae’r lleoliadau wedi gwasgaru ar hyd a lled y DU gan gwmpasu coedwigoedd, mawndiroedd, glaswelltir, afonydd, mynyddoedd a mwy. Bydd cyfraniadau yn ein helpu ni i blannu coed, adfer ac arafu llif afonydd, adnewyddu mawndiroedd, ailgyflwyno rhywogaethau brodorol a chreu dolydd newydd.
Haul isel yr hydref yn disgleirio drwy goed ar draws y llyn yn Wallington, Northumberland | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Moelydd Gritstone ar ddiwrnod heulog, Kinder Scout, Swydd Derby | ©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rob Coleman
Ymwelydd yn defnyddio’r ap Smartify i adnabod y gwaith celf yn yr Oriel Luniau, Tŷ a Gardd Upton, Swydd Warwick | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Ymwelydd ag Upton House
Fe wnaeth e wirioneddol ychwanegu at ein hymweliad a byddem yn annog ein ffrindiau i’w ddefnyddio hefyd.
Dysgwch fwy am Smartify
Mae’r prosiect peilot hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi ei adnewyddu am 12 mis arall. Mae wedi galluogi mwy o bobl i drochi eu hunain yn y stori y tu ôl i’r gwrthrychau yn Upton House, yn ogystal ag ehangu eu profiad gyda ni y tu hwnt i amser eu hymweliad corffol. Rydym hefyd wedi gweld drosom ein hunain y gall adnabod gwrthrych fod yn adnodd pwerus i helpu ein hymwelwyr gysylltu ar lefel ddyfnach gyda’r casgliadau sydd yn ein gofal.
Yn ystod ymweliad, gallwch ddefnyddio’r ap i sganio ac adnabod gweithiau celf er mwyn cael mynediad at wybodaeth ynghylch y paentiadau, porslen a thapestrïau yng Nghasgliad Bearsted. Fel rhan o’r daith sain, byddwch yn clywed cymysgedd o safbwyntiau, gan gynnwys cyflwyniad gan ein Curadur Eiddo, straeon o’n prosiect hanes llafar gwybodaeth am y casgliadau gan ein gwirfoddolwyr. Gallwch hefyd barhau gyda’r profiad yn ôl gartref drwy safio eich hoff wrthrychau i’ch galeri ddigidol eich hun.
Mwy na 500 o eitemau o’r casgliad
yn Upton wedi’u gwneud yn hygyrch drwy adnodd adnabod gwrthrych
Ap Smartify yn Upton House
Cafwyd mynediad at y gwrthrychau hyn
drwy’r llwyfan Smartify 15,374 gwaith
Roedd 85% a o’r defnyddwyr a holwyd eisiau
gweld mwy o eiddo Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig dull adnabod gwrthrych
Ymwelwyr yn defnyddio’r ap Smartify i adnabod y gwaith celf yn yr Oriel Luniau, Tŷ a Gardd Upton, Swydd Warwick | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/James Dobson
Renew our ways of working
Water cascades through the metal spouts and flows into the pond in the new Mediterranean Garden at Beningbrough, North Yorkshire | ©National Trust Images/Rebecca Hughes
Bringing climate resilience to the gardens at Beningbrough
Ymwelydd yn archwilio’r nodwedd dŵr yn yr Ardd Ganoldirol yn Beningbrough, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Andy SturgeonDylunydd
Rwy’n credu bod llwyddiant yr ardd hon yn dod o blethu’r waliau cerrig brics coch hynafol, ynghyd â phresenoldeb y Neuadd sy’n edrych drosti, gyda cheinder a harddwch gweadol y planhigion newydd sydd wedi’u plannu.
Mae’r rhan fwyaf o’r 4,000 o blanhigion newydd yn gyfeillgar i beillwyr, gan ddod â hwb bioamrywiaeth anferthol i ardd y neuadd, tra mae’r tanc enfawr o dan yr ardd yn casglu dŵr glaw dros ben ac yn ei ryddhau’n araf er mwyn atal llifogydd cyflym, niweidiol. Mae’r defnydd a wneir o blanhigion sy’n gallu gwrthsefyll sychder yn golygu na fydd yr ardd, wedi iddi gael ei sefydlu, angen dŵr ychwanegol – gan leihau ôl-troed carbon yr ardd a galluogi tîm yr ardd i ganolbwyntio ar dasgau eraill. Mae’r ardd wedi bod yn hynod o boblogaidd gydag ymwelwyr, gan eu hannog i archwilio, ymlacio, a meddwl ynghylch sut y gallant addasu eu gerddi eu hunain i’n hinsawdd heriol.
Mae ardal o laswellt sydd heb gael ei defnyddio lawer wedi’i thrawsffurfio yn ardd sydd bellach yn teimlo fel ochr mynydd Canoldirol. Mae miloedd o blanhigion newydd o barthau hinsawdd Canoldirol led-led y byd wedi cael eu plannu, a fydd yn gallu ymdopi’n well gyda phegynau eithaf gwres a gwlypter, gan sicrhau bod yr ardd yn wydn yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Yr Ardd Ganoldirol yw’r cam diweddaraf yn y weledigaeth hirdymor i wella, ac mewn rhai achosion, ailddychmygu’r ardd o amgylch y neuadd Eidalaidd ei harddull.
Plentyn yn archwilio’r nodwedd dŵr yn yr Ardd Ganoldirol yn Beningbrough, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Gweledigaeth gardd Beningbrough, Swydd Efrog
Ardaloedd eistedd ymlacion yn yr Ardd Ganoldirol newydd yn Beningbrough, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Ymwelwyr yn archwilio’r Ardd Ganoldirol newydd gyda’u cŵn yn Beningbrough, Gogledd Swydd Efrog | ©Delweddau Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Rebecca Hughes
Using the Smartify app at Upton House and Gardens, Warwickshire | ©National Trust Images/James Dobson
Unlocking the stories behind collections with Smartify
Conservationists working on the Clandon Park restoration project, Clandon Park, Surrey | ©National Trust Images/Andreas von Einsiedel
Creating space for more people to celebrate the stories of Clandon Park
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore
Reimagining the way children experience country houses
Edith ParkinsonNational Trust, Senior House and Collections Officer
'Visitors of all ages can experience the hall in a way they never could before.
Read
Creating The Children's Country House
Behind the scenes at The Children's Country House at Sudbury
The Children’s Country House has been created with, for and by children, underpinned by a range of expertise and research. We recruited a group of over 100 child ambassadors who have helped us along this journey to creating The Children’s Country House. From developing ideas with us to designing elements and trialling and testing some of the activities, their enthusiasm and creativity has blown us away.
The impact
The curators and conservators at Sudbury Hall have worked alongside children, as well as experts in heritage engagement and learning, to create an experience where children are encouraged to be curious and have fun with history. All while protecting the late 17th-century collections. At every stage we asked ourselves the question: 'how can we make this a place where every child feels comfortable, welcome and can lead their own visit?'
The results
Dame Dr Maggie Aderin-Pocock, David Olusoga, Tayshan Hayden-Smith and Megan McCubbin launch the National Trust’s Time + Space Award. National Trust / Fabio De Paola
Sudbury Hall has always been a popular destination for families. With that in mind, we recognised an opportunity to reassess how we bring its stories to life for families and rethink how children experience historic country houses. After hours of conversations and sharing ideas, the concept of The Children’s Country House was born.
The project
Download PDF
Download PDF of the strategy
NationalTrustStrategy2025.PDF (6mb)
© National Trust Registered Charity 205846 Heelis, Kemble Drive, Swindon SN2 2NA
For everyone, for ever
Strategy overview
Projects
Overview
Download Strategy PDF
Our 2025 - 2035 strategy
Continuing a legacy
The consultation process
Foreword
Creating natural history at Purbeck Heaths
XX Lorem ipsum
Lorem ipsum dolor amet sit omnia vinces discendo veritas decimus lostorn damocles
We’ve teamed up with Natural England, RSPB, Forestry England, the Rempstone Estate Trust, Dorset Wildlife Trust and Amphibian and Reptile Conservation Trust, along with other landowners and managers, to create the UK’s first ‘super’ nature reserve at Purbeck Heaths.
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et
Spanning 8,231 acres, the ‘super’ reserve at Purbeck Heaths brings together 11 priority habitats. That means animals, reptiles, birds and insects can move more easily across the landscape and adapt to the challenges brought by the climate crisis.
David Elliot, Head Ranger, the National Trust
So much hard work over so many years, by so many people.
Preserving peatland at places in our care
Helping nature and wildlife thrive at Porlock Vale
Renew our ways
Inspire
Listening to people
Our history
Case studies
Goal break down
Open link
The Wild Life: Episode 3
Read article
Play video
Listen to the podcast
Podcast placeholder
Purbeck Heaths is one of the most biodiverse places in the UK. This precious landscape on the shores of Poole Harbour is home to thousands of species including over 450 that are listed as rare, threatened or protected. By working together, we’ve helped to create the largest lowland heathland nature reserve in the country, where wildlife can thrive.
Drag to view more
Cau